Cefnogaeth

Recordiad Gweminar Byw Cefnogogaeth
Mae recordiadau o’n digwyddiad diweddaraf ar gael ar gais, cysylltwch â ni i ofyn am gopi.

Diogelu
Rydym yn cydnabod ein dyletswyddau a'n cyfrifoldebau i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ac dylid rhoi cyfle iddynt gael y budd mwyaf posibl o gyfleoedd addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel. Gallwch ddysgu mwy am ddiogelu ar ein gwefan.
Cymorth Llesiant
Mae eich diogelwch a'ch lles yn bwysig iawn i ni yn Coleg Gwent. Felly byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel yn y coleg ac ar leoliadau gwaith, yn eich amddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod, bwlio ac aflonyddu, a byddwn yn darparu cymorth gydag anawsterau personol. Dysgwch fwy am ein gwasanaethau cwnsela a chaplaniaeth cyfrinachol sydd ar waith i'ch cefnogi chi ar ein wefan.
Tiwtoriaid Personol
Fel myfyriwr llawn amser byddwch yn cael eich Tiwtor Personol eich hun a fydd yn cyfarfod â chi i adolygu eich datblygiad academaidd, darparu cymorth, cynnig arweiniad ac anogaeth i sicrhau eich bod yn cwblhau holl agweddau eich cwrs yn llwyddiannus. Yn ogystal â gofalu am eich iechyd a'ch llesiant cyffredinol a bod yn rhywun gallwch ymddiried a dibynnu arnynt, byddant hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf yn y coleg, prifysgol neu gyflogaeth.

Datblygu Sgiliau
Yng Ngholeg Gwent, mae pob dysgwr amser llawn yn elwa o raglen gyfoethogi i gefnogi datblygiad sgiliau cyflogadwyedd sy'n rhan o'ch cwrs. I gael mwy o wybodaeth am y Dystysgrif Her Sgiliau newydd gan CBAC, ewch i'r wefan.

Cymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol
Rydym yma i helpu pawb i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn. Os oes gennych anhawster dysgu a/neu anabledd, gallwn ddarparu llawer o gefnogaeth i chi. Gallai hyn gynnwys:
- - Cymorth yn y dosbarth a thu allan i'r dosbarth gan Gymhorthydd Cymorth Ychwanegol
- - Sesiynau ychwanegol i helpu gydag aseiniadau a gwaith cwrs
- - Cymorth gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu
- - Ardaloedd tawel
- - Meddalwedd hygyrchedd gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol
- - Trefniadau Mynediad ar gyfer Arholiadau
Os oes angen y math hwn o gymorth arnoch, siaradwch â'ch Tiwtor Personol neu cysylltwch â'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) ar eich campws.

Ysbrydolrwydd
Pa un ai a ydych eisiau dysgu mwy am grefyddau'r byd, cael help gyda myfyrdod neu weddïo neu eisiau cymorth ar adegau o argyfwng neu angen ysbrydol, mae ein tîm Ysbrydoliaeth yno i'ch helpu.
Cymorth Iaith Gymraeg
Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i ni fel coleg. Rydym yn annog holl aelodau cymuned y coleg, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil bersonol ac addysgol yn ogystal â sgil gyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol.
Y Rhwydwaith Seren
Rydym eisiau sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn cyflawni eu potensial. Mae’r Rhwydwaith Seren yn darparu sylfaen arbennig i bob myfyriwr a gafodd raddau A* yn TGAU i ymgeisio am le gyda phrifysgolion cystadleuol a dethol Grŵp Russell (grŵp o brifysgolion gyda ffocws cyfunol ar ymchwil ac enw da o ran cyflawniad academaidd). Nod y gweithgareddau a ddarperir yw hybu hyder a gwytnwch, yn ogystal ag ehangu dealltwriaeth o’r pwnc, eich helpu i ddatblygu’r nodweddion y mae prifysgolion Grŵp Russell yn eu gwerthfawrogi ac yn chwilio amdanynt yn eu hymgeiswyr

Mae Togetherall yn gymuned ar-lein ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gyda mynediad 24/7 at weithwyr proffesiynol hyfforddedig. Gan gynnig arbenigedd clinigol, cefnogaeth cymheiriaid ac amgylchedd diogel ar-lein, ei nod yw gwella lles meddyliol mewn ffordd gynhwysol ac anfeirniadol. Gall aelodau gefnogi ei gilydd yn ddienw, ac mae hefyd yn cynnwys hunanasesiadau, cyrsiau hunan-dywys ac offer creadigol i’ch helpu chi i reoli cyflyrau iechyd meddwl, cymryd rheolaeth, teimlo’n well a chynnal lles meddyliol cadarnhaol tra’ch bod chi yn y coleg.