Chwaraeon a Hamdden
Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi, rheoli, ymarfer corff, gwyddoniaeth neu therapi, mae gennym gyrsiau fydd yn eich paratoi chi ar gyfer y gyrfaoedd cyffrous hyn. Efallai y byddwch yn gweithio mewn clwb iechyd, yn arweinydd gweithgareddau awyr agored neu'n gweithio yn y diwydiant hamdden.
Mae 61% o Fusnesau Twristiaeth wedi datgan eu bod nhw'n chwilio'n benodol am sgiliau ymdrin â chwsmeriaid wrth recriwtio
Gwasanaethau Cyhoeddus
Efallai bod gennych ddiddordeb mewn bod yn barafeddyg, môr-filwr neu ddiffoddwr tân? Bydd ein cyrsiau gwasanaethau cyhoeddus yn eich helpu chi i gyflawni'r graddau, a bydd y rhai sy'n dilyn gyrfa mewn un o'r gwasanaethau mewn lifrai neu wasanaeth heb lifrai yn chwarae rhan bwysig o fewn cymdeithas.
Oeddech chi'n gwybod fod rheolwr traffig awyr yn ennill cyfartaledd o £80,000 bob blwyddyn!
Teithio a Thwristiaeth
Mae'r byd cyfan yn aros amdanoch. Rhai o'r gyrfaoedd o fewn Teithio a Thwristiaeth yw; criw awyren, hyrwyddo twristiaeth, rheoli digwyddiadau, trefnydd teithiau a llawer mwy.
Academi Rygbi Dreigiau Coleg Gwent
Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Dreigiau Coleg Gwent, lle mae chwaraewyr yn ennill cymwysterau ochr yn ochr â'u 10 awr o hyfforddiant yr wythnos.
Beth alla i ei astudio, a ble?
Darlwythwch y daflen ffeithiau a darganfod ble y gallwch astudio pob un o'n cyrsiau Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus.
DARLWYTHONid oeddwn yn gwybod beth oeddwn ei eisiau. Deuthum i'r diwrnod agored a chefais amlinelliad o'r cwrs a'i gynnwys. Nid yw pobl yn sylweddoli bod mwy i'r cwrs hwn; gallwch fynd i mewn i bethau fel rheoli digwyddiadau neu farchnata. Fy nghyflawniad mwyaf yw cael cynnig gan brifysgol!
Sophie Davies
Teithio a Thwristiaeth Lefel 3
