Mae dros 30,000 o bobl yn cael eu cyflogi o fewn cyfraith a threfn
Gwyddoniaeth (yn cynnwys Biowyddorau a Gwyddorau Fforensig)
Os oes gennych ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a sut mae'r byd yn gweithio, beth am arbenigo mewn un maes? Mae dewisiadau yn cynnwys biotechnoleg, technoleg forol, fforensig, ffisiotherapi a deintyddiaeth.
Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
Os ydych eisiau gweithio ym maes y gyfraith, gwaith cymdeithasol neu i'r gwasanaethau cyhoeddus, gallai astudio dyniaethau eich helpu chi i ddod o hyd i yrfa yn y maes hwn. Mae swyddi yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, cynghorwyr a chyfreithwyr.
Nyrsio a Gofal Iechyd
Ydych chi'n berson sy'n mwynhau gofal ac yn angerddol am lesiant eraill? Os felly, nyrsio yw'r yrfa i chi. Gan fod mwy o swyddi gwag na gweithwyr cymwys, mae swyddi ar gael ym maes gofal iechyd o hyd. Maent yn cynnwys ffisiotherapyddion, bydwragedd, seicolegwyr a llawer mwy.
Mae mwy na 20,000 o fyfyrwyr AU yn ymgeisio ar gyfer cyrsiau gradd bob blwyddyn
Beth Nesaf?
Mae Cyrsiau Mynediad i AU yn cael eu cynnwys yn nhariff UCAS a chânt eu derbyn yn eang gan brifysgolion y DU, ond dylech wirio gyda'r brifysgol benodol y dymunwch fynd iddi. Gallwch aros yn lleol a gwneud gradd brifysgol yn Coleg Gwent.
Beth alla i ei astudio, a ble?
Darlwythwch y daflen ffeithiau a darganfod ble y gallwch astudio pob un o'n cyrsiau Llwybr at Radd.
DARLWYTHORoedd angen cymhwyster arnaf i fynd ymlaen â ffisiotherapi. Er fy mod yn gweithio fel Cynorthwyydd Ffisio, roeddwn yn teimlo'n rhwystredig yn methu â symud ymlaen yn y fy rôl gyfredol, ond mae dod i Coleg Gwent wedi fy ngalluogi i oresgyn y rhwystr hwnnw. Roedd fy athrawon yn frwdfrydig ac wedi'u cymell i gael eu myfyrwyr i fynd i'r brifysgol ac i wneud y gorau gallant ar eu cwrs.
Rosalind Spooner
Mynediad i'r Gwyddorau Iechyd a Meddygol
