Celf a Dylunio
Mae ein cyrsiau celf a dylunio yn cynnig blas i chi o ddisgyblaethau sy'n gysylltiedig â chelf fel y gallwch benderfynu pa faes yr hoffech chi arbenigo ynddo yn y dyfodol.
Y Cyfryngau Creadigol
Mae'r diwydiant cyfryngau creadigol yn cwmpasu ystod eang o sectorau gan gynnwys hysbysebu, dylunio, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth, y celfyddydau, cyhoeddi, radio, teledu a mwy! Erbyn 2024, bydd 25% yn fwy o ddylunwyr graffig yn y gweithlu!
Y Cyfryngau Rhyngweithiol
Rydym yn rhyngweithio gyda'r cyfryngau bob dydd drwy apiau ar ein ffonau clyfar, technoleg cyffwrdd sgrin etc. Creu cynnyrch digidol sy'n dibynnu ar gysylltu â chwsmeriaid drwy hysbysebion naid, negeseuon testun, fideo a sain.
Ffotograffiaeth
Gyda'r datblygiadau mewn technoleg, mae ffotograffiaeth yn faes gwaith hynod greadigol a deinamig i weithio ynddo. Gallwch arbenigo mewn stiwdio, dogfennu, chwaraeon, bwyd, pensaernïaeth, marchnata a ffasiwn - a llawer mwy!
Ffasiwn
Ydych chi ar y blaen â thueddiadau, yn defnyddio lliw yn dda ac yn gwybod beth sy'n edrych yn dda? Trowch eich dyluniadau
yn ddillad; gweithiwch gyda thorwyr patrymau, manwerthwyr a phrynwyr.
Arddangosiadau ac arddangosfeydd myfyrwyr
Pob blwyddyn mae'r campysau yn cynnal arddangosfeydd diwedd blwyddyn, sy'n gyfle gwych i ffrindiau, teulu a'r cyhoedd i weld gwaith y myfyrwyr.
Beth alla i ei astudio, a ble?
Darlwythwch y daflen ffeithiau a darganfod ble y gallwch astudio pob un o'n cyrsiau Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth gwahanol.
DarlwythoArt & Design, Media and Photography Welsh Testimonial“Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn celf ac ers yn ifanc iawn rwyf wedi bod yn tynnu lluniau, ond nawr hoffwn fynd i mewn i ddylunio gemau. Rwyf wedi dysgu cymaint ers bod yn Coleg Gwent ac mae’r athrawon yn eich cefnogi a’ch arwain. Rwyf eisiau gwneud dwy flynedd o ddylunio gemau yn Coleg Gwent ar ddiwedd y cwrs hwn ac yna mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd ar gyfer y drydedd flwyddyn.
Ayk Perera
Celf, Dylunio a’r Cyfryngau Lefel 3
